Neidio i'r Prif Gynnwys

Gwasanaethau Llyfrgell

Meddwl yn feirniadol

Meddwl yn feirniadol yn y brifysgol

Cyflwyno a chyfathrebu eich ddulliau beirniadol yn hyderus - dadansoddi tystiolaeth, gwerthuso a barn academaidd resymegol i aseswyr trwy ddatblygu eich geirfa o gritigolrwydd academaidd

Beth yw critigolrwydd?

Mae critigolrwydd yn un agwedd bwysig ar astudio yn brifysgol

Yng nghyd-destun astudiio yn y brifysgol ac ymchwil academaidd ehangach, mae critigolrwydd yn golygu cymhwyso set sgiliau deallusol amlochrog a ddefnyddir fel rhan o ymagwedd at ddysgu sy’n mynd y tu hwnt i addysgu goddefol syml a chofio gwybodaeth sylfaenol yn beirianyddol. Mae'n ymwneud ag archwiliad dadansoddol a gwerthusol systematig o dystiolaeth, damcaniaethau, cysyniadau a dadleuon. Bydd ymagwedd feirniadol tuag at ddysgu yn golygu bod dysgwr neu ymchwilydd yn prosesu profiadau, gwybodaeth neu dystiolaeth sylfaenol er mwyn gwneud synnwyr a llunio esboniad ohono eu hunain er mwyn datblygu dull dyfnach a mwy ystyrlon o ddysgu. Fel y cyfryw, anogir myfyrwyr prifysgol i gwestiynu rhagdybiaethau, archwilio safbwyntiau amrywiol, ac ymgysylltu â materion cymhleth, gan feithrin dealltwriaeth ddyfnach o ddeunydd pwnc yn ogystal â datblygu sgiliau gwybyddol beirniadol.

Un o nodau allweddol dulliau a gweithgareddau cyffredin a ddefnyddir mewn addysgu a dysgu yn y brifysgol yw meithrin sgiliau meddwl beirniadol. Mae meddwl yn feirniadol yn cael ei feithrin trwy ddulliau gwahanol, gan gynnwys trafodaethau dosbarth, dadleuon, prosiectau ymchwil, ac ymarferion datrys problemau. Mae'n annog myfyrwyr i wynebu amwysedd, ystyried dehongliadau amgen, a mynd i'r afael â chymhlethdodau'r byd go iawn. Yn ogystal, mae gan feddwl beirniadol gysylltiad agos â sgiliau cyfathrebu, gan fod yn rhaid i fyfyrwyr fynegi eu syniadau'n berswadiol a chymryd rhan mewn trafodaeth adeiladol. Yn y pen draw, mae meithrin meddwl beirniadol ar lefel prifysgol yn arfogi myfyrwyr â sgiliau sy'n ymestyn y tu hwnt i'r byd academaidd, gan eu galluogi i lywio byd sy’n gynyddol gymhleth a ac yn llawn gwybodaeth. Mae'n grymuso unigolion i fynd i'r afael â heriau gyda thrylwyredd deallusol, gwneud penderfyniadau gwybodus, a chyfrannu'n ystyrlon at drafodaethau ar amrywiaeth eang o bynciau.

Agweddau allweddol ar ddulliau beirniadol:
  • Dadansoddi: Mae dulliau beirniadol yn dechrau gyda'r gallu i ddadansoddi problemau, dadleuon neu sefyllfaoedd cymhleth a’u rhannu’n rannau cyfansoddol. Mae hyn yn cynnwys rhannu gwybodaeth yn ddarnau hylaw, nodi patrymau, a deall y berthynas rhwng gwahanol elfennau.
  • Gwerthuso: Mae'n ymwneud ag asesu ansawdd, perthnasedd a hygrededd gwybodaeth a dadleuon. Rhaid i fyfyrwyr ddysgu cwestiynu rhagdybiaethau, adnabod rhagfarnau, ac ystyried y ffynhonnell, y cyd-destun, a'r dystiolaeth y tu ôl i'r wybodaeth y maent yn dod ar ei thraws.
  • Synthesis: Gall meddylwyr beirniadol gymryd darnau amrywiol o wybodaeth neu syniadau a'u cyfuno'n gyfanwaith cydlynol. Mae'r sgil hon yn hanfodol ar gyfer datrys problemau creadigol ac ar gyfer creu atebion arloesol i faterion cymhleth.
  • Cymhwyso: Mae meddwl yn feirniadol yn rhywbeth ymarferol ac nid yn rhywbeth damcaniaethol yn unig;. Mae'n galluogi myfyrwyr i gymhwyso eu sgiliau dadansoddol a gwerthusol i broblemau byd go iawn, y tu mewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth.
  • Dod i gasgliad: Dylai myfyrwyr allu dod i gasgliadau rhesymegol sydd wedi'u cefnogi'n dda gan ddefnyddio;’r wybodaeth a'r dystiolaeth sydd ar gael iddynt. Mae hyn yn cynnwys y gallu i wneud rhagfynegiadau cadarn a chyffredinoli.
  • Myfyrio: Mae meddwl yn feirniadol yn annog hunanymwybyddiaeth a metawybyddiaeth. Mae'n gofyn i fyfyrwyr fyfyrio ar eu prosesau meddwl, rhagfarnau, a chyfyngiadau eu hunain yn eu rhesymu.
  • Cyfathrebu: Mae cyfathrebu eich meddyliau a'ch syniadau yn effeithiol yn hanfodol i feddwl yn feirniadol. Mae hyn yn cynnwys y gallu i fynegi dadleuon yn glir, yn argyhoeddiadol, ac yn gydlynol, boed yn ysgrifenedig neu drwy drafodaeth ar lafar.
  • Datrys Problemau: Mae meddwl yn feirniadol yn rhoi sgiliau datrys problemau i fyfyrwyr. Gallant nodi materion, casglu gwybodaeth berthnasol, a datblygu atebion ymarferol yn seiliedig ar eu gwaith dadansoddi a gwerthuso.
  • Meddwl Agored: Mae meddylwyr beirniadol yn agored i wahanol safbwyntiau ac yn barod i ystyried safbwyntiau a allai herio eu credoau eu hunain. Mae'r natur agored hwn yn meithrin twf deallusol a'r gallu i gymryd rhan mewn deialog adeiladol.
  • Gwneud Penderfyniadau : Mae meddwl yn feirniadol yn helpu myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus yn seiliedig ar ystyriaeth ofalus o'r holl wybodaeth sydd ar gael, gan bwyso a mesur y manteision a'r anfanteision, a rhagweld canlyniadau posibl.

Pam ei fod yn bwysig i chi?

Crirtigolrwydd fel nodwedd sy’n diffinio arfer academaidd

Mae bod yn feirniadol yn nodwedd sy’n diffinio ymchwil academaidd o wybodaeth yn ogystal â'r trylwyredd methodolegol sy'n cadarnhau ei ddilysrwydd ymhlith cymunedau ymchwil academaidd a’r byd ehangach. Mae dull beirniadol yn llywio'r gwaith o ddylunio a gweithredu dulliau ymchwil trwyadl ar gyfer casglu tystiolaeth graidd, gan sicrhau ei fod yn wrthrychol, yn ddibynadwy a bod ymchwilwyr eraill yn gallu ailadrodd y dull. Mae critigolrwydd yn sail i brosesau dadansoddi tystiolaeth graidd er mwyn ffurfio esboniadau neu ddehongliadau rhesymegol ohoni sydd hefyd yn gwneud synnwyr yng nghyd-destun gwybodaeth academaidd bresennol. Mae dull beirniadol hefyd wrth wraidd dod i gasgliad neu ddadleuon rhesymegol a ddefnyddir fel sail i gasgliadau cysyniadol a damcaniaethol ehangach sydd nid yn unig yn esbonio’r dystiolaeth sylfaenol, ond sydd hefyd yn strwythuro gwybodaeth a dealltwriaeth academaidd ddyfnach, mwy cynnil, craff a thrylwyr o fewn disgyblaeth neu faes pwnc.

Mae critigolrwydd (a defnyddio sgiliau meddwl cydrannol fel dull o fod yn feirniadol) wrth wraidd dau arfer academaidd sylfaenol: yn gyntaf, y gallu i ddadadeiladu’r dadleuon a’r dystiolaeth a gyflwynir gan eraill ac yn ail, y gallu i lunio ein dulliau cydlynol a rhesymegol ein hunain. dadleuon sy’n defnyddio tystiolaeth yn briodol ac yn effeithiol i gefnogi ein safbwyntiau a’n casgliadau ein hunain:

  • Mae’r gallu i ddadansoddi gwybodaeth yn wrthrychol yn ddiduedd yn hollbwysig. Mae hyn yn cynnwys y gwaith ymchwil a chasglu data rydym ni’n ei wneud a'r hyn a gynigir gan eraill. Yr allwedd i ddadansoddi gwrthrychol yw'r gallu i nodi patrymau, cysylltiadau a pherthnasoedd rhesymegol sy'n bodoli mewn ffynonnellau yn ogystal â goblygiadau ac esboniadau sy'n codi o ganlyniad.
  • Mae dull beirniadol drylwyr yn gofyn am y gallu i werthuso dilysrwydd neu ddibynadwyedd ffynonellau yn ogystal â'r dadleuon a wneir amdanynt. Bydd hyn yn aml yn cynnwys gwerthusiad o'r methodolegau a ddefnyddir wrth gasglu a dadansoddi ffynonnellau yn ogystal ag asesu cydlyniad rhesymegol y casgliadau, y dadleuon a'r casgliadau a wneir mewn ymateb (boed hynny gennym ni ein hunain neu yng ngwaith eraill). Gall 'chwalu' esboniadau cysyniadol cymhleth neu ddadleuon damcaniaethol i'w rhannau cyfansoddol fod yn allweddol yma, er mwyn asesu eu cysondeb a’u dilysrwydd yn feirniadol.
  • Wrth werthuso dadleuon pobl eraill rydym yn datblygu ein gallu i wahaniaethu rhwng yr hyn sy’n gyfystyr â dadl a chasgliad credadwy sydd wedi’i rhesymu’n feirniadol (sydd, yn cyfrannu at ddealltwriaeth academaidd gytûn o fewn maes ar ôl cael ei dderbyn gan gymuned academaidd ehangach,) a dadleuon sydd ddim mwy na dyfalu sy'n aml yn cael eu cyflwyno neu eu 'cuddio' fel dadl academaidd ond sy'n dibynnu ar ddulliau anfeirniadol, annilys, anghyflawn neu annibynadwy o ddod i gasgliad.
  • Hefyd yn berthnasol ac yn hollbwysig wrth lunio ein dadl ein hunain neu ddadadeiladu gwaith rhywun arall yw’r gallu i nodi rhagfarnau posibl a all fodoli mewn prosesau dewisedig o fethodoleg, dadansoddi a dadlau a allai ystumio a thanseilio gwrthrychedd y casgliadau a wneir. Daw hyn yn bwysicach fyth wrth ymgymryd ag ymchwil academaidd ffurfiol (ar lefel ôl-raddedig neu ddoethurol gan amlaf) er mwyn osgoi unrhyw gyhuddiadau ynghylch trylwyredd dulliau a chasgliadau ymchwil a chyflawnir hyn drwy ddangos ymwybyddiaeth (a lle bo angen strategaeth gadarn ar gyfer gwadur’r effaith) o fathau o ragfarn, er enghraifft y rhai a all fodoli neu ddod i'r amlwg mewn perthynas â: defnyddio methodolegau casglu data a dadansodd cyffredini; y ddisgyblaeth, pwnc neu faes pwnc ymchwil ei hun; profiadau personol neu broffesiynol, safbwyntiau neu gefndiroedd yr ymchwilydd neu gyfranogwyr yr ymchwil.

Critigolrwydd a meddwl yn feirniadol yn eich astudiaethau

Mae defnyddio critigolrwydd yn agwedd sylfaenol ar arfer academaidd ac yn rhywbeth y bydd angen i chi ei wneud mewn ystod o weithgareddau, er enghraifft:
  • wrth wneud nodiadau mewn darlithoedd neu seminarau - gwneud penderfyniad ar y ffordd orau i strwythuro'ch nodiadau neu efallai pa wybodaeth i'w chynnwys a beth i'w adael
  • wrth ofyn cwestiynau i'r darlithydd neu'ch cymheiriaid sy'n dysgu
  • wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu trafodol neu'r rhai sy'n gofyn ichi ymchwilio'n gyflym i bwnc cyn ei gyflwyno'n ôl i'r dosbarth
  • wrth ystyried sut y byddwch yn dilyn eich dysgu dan gyfarwyddyd gyda'ch astudiaeth annibynnol eich hun er mwyn cynyddu eich dealltwriaeth.
  • meddwl am y syniadau neu'r cysyniadau allweddol sy'n gysylltiedig â dysgu’ch pwnc
  • wrth adeiladu mapiau gwybodaeth neu'r pensaernïaeth gwybodaeth sy'n llywio dealltwriaeth academaidd o'ch disgyblaeth
  • wrth feddwl am sut mae testunau eang neu benodol eich modiwl yn berthnasol i'r rhai yr ymdrinnir â hwy mewn modiwl arall neu y byddwch yn rhoi sylw iddynt yn y dyfodol
  • wrth wneud penderfyniadau strategol ynghylch pa fodiwlau neu feysydd pwnc penodol y neilltuir amser astudio annibynnol iddynt
  • wrth gynllunio sut y byddwch yn ymdrin â thasg dysgu neu asesu penodol ac yn ei chwblhau
  • wrth wneud penderfyniadau cynllunio ynghylch sut i fuddsoddi'r amser astudio annibynnol yr ydych yn ei neilltuo i ddatblygiad eich arfer academaidd
  • wrth gynllunio sut y byddwch yn ymdrin â thasg dysgu neu asesu penodol ac yn ei chwblhau
  • wrth ymgysylltu ag adborth asesu gan eich tiwtor a chynllunio sut i fynd i'r afael â meysydd o'ch perfformiad
  • wrth greu amserlen adolygu sy’n neilltuo amser adolygu priodol i’r holl bynciau angenrheidiol tra hefyd yn caniatáu ffocws ychwanegol ar feysydd sydd angen mwy o sylw
  • wrth ddarllen a gwerthuso llenyddiaeth academaidd fel rhan o'ch astudiaeth annibynnol ehangach
  • wrth werthuso (cryfderau a gwendidau) dadleuon academaidd a safbwyntiau eraill
  • wrth gynnal adolygiad o lenyddiaeth fel rhan o dasg asesu sy’n mynd i’r afael â chwestiwn penodol neu destun ymchwiliad
  • wwrth benderfynu pa rai o'ch ffynonellau academaidd a nodwyd y byddwch yn eu blaenoriaethu fel tystiolaeth ategol ar gyfer dadl academaidd
  • pan fyddwch yn sylweddoli am y tro cyntaf nad ydych yn cytuno mwyach â’r barn academaidd gyffredin presennol ac yn gallu rhesymoli, rhesymu a mynegi pam nad ydych chi’n cytuno
  • wrth lunio eich dadleuon academaidd eich hun yn ystod cam ymchwil aseiniad ysgrifenedig
  • wrth strwythuro cyfres o ddatganiadau ategol rhesymegol argyhoeddiadol sy’n seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn galluogi dadl a chasgliad cadarn
  • wrth gynllunio sut y byddwch yn neilltuo amser i wahanol gamau tasg asesu ysgrifenedig
  • wrth gynllunio strwythur ysgrifenedig tasg asesu ysgrifenedig
  • wrth ddatblygu eich llais academaidd eich hun neu arddull ysgrifennu academaidd er mwyn rhoi eich stamp eich hun ar eich gwaith
  • cyfleu eich agwedd feirniadol yn eglur i'ch aseswyr
  • wrth gasglu data
  • wrth ddewis dulliau ar gyfer dadansoddi data
  • wrth ysgrifennu eich canlyniadau

Dadl academaidd

Taflenni gwaith

Dadansoddi dadleuon - Mae'r ffurflen hon yn cynnig awgrymiadau ar gyfer dadansoddi dadleuon academaidd, defnyddiwch y ffurflen i ddyrannu, disgrifio ac asesu effeithiolrwydd cynigion academaidd a wneir gan eraill neu ei gymhwyso i'ch ysgrifennu academaidd eich hun fel ffordd o hunanasesu eich gwaith wrth i chi ddrafftio eich aseiniad.

Gwerthuso dadlleuon - Defnyddiwch y ffurflen hon i werthuso dadl ar ôl i chi ei dadansoddi. Er y bydd dull dadansoddol yn eich galluogi i nodi dadlau’r awdur, bydd dull gwerthusol yn eich galluogi i werthuso'n feirniadol ac asesu eglurder y ddadl gyffredinol ei hun ac yn bwysicach fyth, sut mae’r awdur yn ei gyflwyno. Mae gwerthuso yn sgil allweddol sydd ei angen ar gyfer llunio ac arddangos eich meddwl rhesymegol eich hun am bwnc academaidd.

Cynlluniwr dadleuon - Defnyddiwch y ffurflen hon i lunio, dadansoddi a gwerthuso eich dadl eich hun. Defnyddiwch yr awgrymiadau i ddatblygu eich syniadau eich hun yn effeithiol, gan gefnogi dadleuon a choladu eich tystiolaeth. Gall eich crynodebau, eich dadansoddiadau a'ch meddyliau am eich dadl gael eu copïo, eu gludo a'u golygu yn eich aseiniad neu draethawd ymchwil yn ddiweddarach.

Cwestiynu Socrataidd - Mae'r canllaw defnyddiol hwn yn cynnwys ystod o gwestiynau Socrataidd i'ch helpu i ddatblygu eich gallu beirniadol i archwilio safbwyntiau academaidd eraill. Yn yr un modd â'r taflenni gwaith uchod, gellir ei ddefnyddio yn yr un modd fel ffordd o archwilio'ch dadleuon academaidd eich hun ac ysgrifennu fel ffordd effeithiol o hunan-asesu!

Darperir y dolenni allanol hyn mewn perthynas ag ansawdd y wybodaeth a'r cyngor cyffredinol a ddarperir ganddynt am y maes pwnc academaidd penodol hwn.

Ymwadiad byr: mae’r adnoddau ar y dudalen hon wedi cael eu creu gan sefydliadau ac unigolion y tu allan i Met Caerdydd ac nid yw’r wybodaeth a chyngor penodol a roddir, yn enwedig o ran polisïau, gwasanaethau, darpariaeth ac arferion prifysgolion eraill yn cyfeirio at rai Met Caerdydd. Rydym yn argymell eich bod yn ymweld â Llawlyfr Academaidd Prifysgol Metropolitan Caerdydd i ddarllen y polisïau, prosesau a gweithdrefnau perthnasol sy'n berthnasol i fyfyrwyr Met Caerdydd pe bai angen.

Meddwl yn feirniadol

Gwefannau

Critical thinking | University of Leeds - Adran ddefnyddiol sy'n cynnig model ar gyfer meddwl beirniadol tra hefyd yn trafod rôl bwysig darllen ac ysgrifennu'n feirniadol yn ogystal â gwerthuso gwybodaeth.

Critical thinking | University of Sussex - Ymhlith y trosolygon fideo defnyddiol, mae'r wefan hon yn diffinio meddwl beirniadol mewn perthynas ag ysgrifennu disgrifiadol, yn cynnig cwis anffurfiol yn seiliedig ar enghreifftiau o wahanol fathau o ysgrifennu ac yn darparu model ar gyfer gwerthuso ffynonellau gwe.

Fideos