Skip to Main Content

Gwasanaethau Llyfrgell

Ap Symudol BrowZine

Dechrau Arni â‘r Ap

  • Lawrlwythwch yr Ap. Mae BrowZine ar gael ar gyfer dyfeisiau symudol Android ac iOS. Os cewch chi broblemau technegol, cofiwch Gysylltwch â Ni.
  • Ar ôl ei osod, chwiliwch a dewiswch Cardiff Metropolitan University o'r rhestr o lyfrgelloedd, yna mewngofnodwch gyda'ch rhif myfyriwr a'ch cyfrinair arferol.

Cofrestru ar gyfer cyfrif yn yr App

I wneud y defnydd gorau o'r ap, fel eich hoff e-Gyfnodolyn, bydd yn rhaid i chi hefyd greu cyfrif BrowZine trwy ddewis Log In, ac yna Sign Up. Mae hyn yn ddewisol, ond mae'n agor llawer o nodweddion defnyddiol ar BrowZine.

Gallwch greu cyfrif unigol gydag unrhyw enw defnyddiwr a chyfrinair, nid oes rhaid iddynt fod yr un peth â'ch enw defnyddiwr a chyfrinair Met Caerdydd.

Unwaith y byddwch wedi creu eich cyfrif, ni ddylai fod angen i chi ei nodi eto ar yr un ddyfais. Bydd y manylion hyn yn cael eu rhannu rhwng y porwr a fersiynau ap o BrowZine.


Pori am e-gyfnodolion yn ôl categori ac is-gategori