Showing 4 of 4 Results

Newyddion y Llyfrgell

10/16/2024
profile-icon Cath Mapstone

Y mis hwn mae gwahoddiad i ni gyd i ymuno yn nathliad Mis Hanes Pobl Ddu eleni.

Y thema eleni yw “Adennill Naratifau” ac mae’n nodi symudiad sylweddol tuag at gydnabod a chywiro naratifau hanes a diwylliant Du. Y nod yw taflu goleuni mwy disglair ar straeon, alegorïau, a hanesion sy'n tanlinellu ymrwymiad i gywiro anghywirdebau hanesyddol ac arddangos y straeon llwyddiant heb eu hadrodd a chymhlethdod llawn treftadaeth Ddu.

Archwiliwch gyfoeth adnoddau eich Llyfrgell Met Caerdydd trwy ChwilioMet, dewch i bori trwy ein harddangosfeydd llyfrau Mis Hanes Pobl Ddu yn Llyfrgell Llandaf a Chyncoed neu edrychwch ar ein Rhestr Ddarllen Gwrth-hiliaeth a rhestrau chwarae Mis Hanes Pobl Ddu 2024 ar Box of Broadcasts.

Os hoffech ragor o wybodaeth am Fis Hanes Pobl Ddu, beth am ymweld â Gwefan Mis Hanes Pobl Ddu: https://www.blackhistorymonth.org.uk/ lle mae erthygl wych ar y 10 Llyfr gan Awduron Du Prydeinig y Dylech Ddarllen a manylion am pecyn adnoddau y gellir ei lawrlwytho i helpu i ddathlu, addysgu ac ysbrydoli.

No Subjects
10/15/2024
profile-icon Cath Mapstone

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn dal trwydded Asiantaeth Drwyddedu Hawlfraint ar gyfer Addysg Uwch, sy’n caniatáu copïo testunau a delweddau o lyfrau, cyfnodolion a chylchgrawn, yn amodol ar gyfyngiadau penodol. Mae’r trwydded newydd CLA ar gyfer Addysg Uwch (1 Awst 2024 - 31 Gorffennaf 2027) wedi’i chyhoeddi’n ddiweddar ac mae’n cynnwys rhai nodweddion newydd:

  • Mae wedi cynyddu’r cyfyngiadau copïo ar gyfer cyfnodolion – Mae’n bosibl nawr copïo neu ofyn am ddau erthygl fesul rhifyn cyfnodolyn (neu 10%, pa un bynnag sydd fwyaf), neu hyd at un rhifyn cyfan os yw’r cynnwys yn ymroddedig i thema benodol.
  • Prosiectau ymchwil cydweithredol – Mae ymchwilwyr bellach yn gallu rhannu cynnwys gyda sefydliadau addysg uwch eraill yn y DU (sy’n dal trwydded CLA) mewn cysylltiad â phrosiectau ymchwil cydweithredol.

Am y cyfyngiadau llawn a’r amodau ar gyfer ein Trwydded CLA gweler arweiniad y CLA a thudalen wefan y llyfrgell ar Hawlfraint

No Subjects
10/14/2024
profile-icon Cath Mapstone

Mae gennym ystod eang o gronfeydd data a fydd yn darparu mynediad i adnoddau academaidd, megis cyfnodolion academaidd, llyfrau, papurau newydd a fideos. Mae rhai yn bwnc penodol; mae eraill yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, a gellir cyrchu pob un ohonynt drwy'r Cronfeydd Data A-Y.

I’ch rhoi ar ben ffordd rydym wedi creu fideo byr ‘Cyflwyniad i Gronfeydd Data’ a chanllaw defnyddiol ar ddefnyddio Cronfeydd Data A-Y. I gael rhagor o gymorth, trefnwch apwyntiad i weld Llyfrgellydd Academaidd.

No Subjects
10/07/2024
Sarah Yardy

Mae dyslecsia yn anabledd dysgu sy'n achosi heriau gyda darllen, ysgrifennu a sillafu. Mae’r anabledd yn un cudd yn aml, oherwydd bod llawer o bobl â dyslecsia yn datblygu strategaethau ymdopi da sy’n cuddio eu brwydrau, ac oherwydd hyn, mae'n anweledig i’r rhai o’u cwmpas.Yr wythnos hon, mae Dyslecsia Prydain yn cynnal eu hymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth, gyda’r thema “Beth Yw Eich Stori CHi?”. Gallwch ddarganfod mwy am yr ymgyrch, yn ogystal â ffyrdd o gael cymorth os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn cael trafferth gyda dyslecsia,ar eu gwefan.

Os ydych chi'n fyfyriwr yma ym Met Caerdydd, gall Gwasanaethau Myfyrwyr ddarparu llawer o gymorth astudio arbenigol i bobl â dyslecsia. I gael gwybod mwy, ewch i'r dudalen Parth-g neu Gwasanaethau Myfyrwyr ar MetCentral.

No Subjects