Teithiau hunan-dywys

Dewch i'n gweld ni drosoch eich hun. Rydym yn cynnig teithiau hunan-dywys yn ystod y tymor ar y ddau gampws. Dewch o hyd i'ch ffordd o gwmpas, dysgwch am ein cyfleusterau a dewis hoff sedd neu ystafell astudio newydd.

Mae croeso i unigolion neu grwpiau bach ar unrhyw adeg, ewch i'r ddesg gymorth llyfrgell i ddechrau eich taith ar adeg sy'n gyfleus i chi.

Mae teithiau hunan-dywys yn cymryd tua 20 munud.

Ffeindiwch Eich Ffordd Ddydd Mercher

Os ydych am ddod fel carfan neu grŵp, rydym yn eich croesawu'n arbennig am 10am neu 2pm ddydd Mercher 5 Mawrth. Dechreuwch wrth ddesg gymorth llyfrgell eich campws.

Map ‘Metrauders’

Rydym yn croesawu adborth ar ffeindio eich ffordd ac arwyddion. Rhowch eich barn i ni ar lywio'r llyfrgell ac enwau'r gofodau. Gofynnwch am fap metrauders. Rydych chi'n cwblhau'r map gwag ac yn rhoi eich dewisiadau i ni. Gall hyn fod mor gyflym â 10 munud.

Mae eich adborth bob amser yn cael ei groesawu

Mae ein tudalen adborth pwrpasol yn eich galluogi i roi eich barn i ni ar unrhyw adeg.