Myfyrwyr Newydd: Croeso i Met Caerdydd!!

Croeso cynnes i Gaerdydd ac i'r Brifysgol gan eich staff yn y llyfrgell. Dyma ganllaw cyflym i ddefnyddio gwasanaethau llyfrgell Met Caerdydd a dechrau eich astudiaethau. Mae ein horiau agor i'w gweld yma, ar ein gwefan.

Cyfrifon Llyfrgell

  • Pan fyddwch yn cofrestru, byddwch yn cael cyfrif llyfrgell yn awtomatig.
  • Eich Cerdyn Adnabod Myfyriwr yw eich cerdyn llyfrgell hefyd. Bydd angen y cerdyn hwn gyda chi i fenthyg llyfrau o gasgliad y llyfrgell.

Benthyg

  • Gallwch fenthyg hyd at 30 o lyfrau ar y tro.
  • I fenthyg llyfr, does ond angen i chi fynd ag ef i un o'r peiriannau talu hunanwasanaeth. Gall aelod o staff y llyfrgell ddangos i chi sut i ddefnyddio'r rhain os oes angen help arnoch!
  • Mae gennych chi hefyd fynediad at ystod eang o e-lyfrau ac erthyglau cyfnodolion trwy gyfrwng ChwilioMet. Gellir defnyddio ChwilioMet hefyd i chwilio am lyfrau ffisegol a gedwir yn y casgliad, a chadw llyfrau fel y gallwch eu casglu o'r llyfrgell yn ddiweddarach.

Help gyda Sgiliau Astudio