Beth sydd ymlaen ym mis Mawrth?
Mawrth 1af: Dydd Gŵyl Dewi
Dydd Gŵyl Dewi Hapus! Dewi Sant yw Nawddsant Cymru. Mae ei ddydd gŵyl ar Fawrth 1af yn cael ei ddathlu’n draddodiadol gyda barddoniaeth, cân, a phice ar y maen!
Mawrth 6ed Diwrnod y Llyfr
Llyfrgell ydym ni, wrth gwrs ein bod ni'n caru Diwrnod y Llyfr !
Beth am ddod i mewn i sgwrsio â’n staff am y ffordd orau o ddod o hyd i’r llyfrau a fydd yn helpu gyda’ch astudiaethau….
Mawrth 8: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (IWD)
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ymgyrch fyd-eang dros gydraddoldeb rhywiol. Dysgwch fwy am Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod a thema eleni, cyflymu gweithredu, yma 
Mawrth 21ain: Diwrnod Barddoniaeth y Byd
Mae Diwrnod Barddoniaeth y Byd yn hybu darllen, ysgrifennu ac adrodd barddoniaeth. Edrychwch ar rai o'r llyfrau barddoniaeth yn ein llyfrgelloedd!


Cynhelir Gweithdai Academaidd ar y 5ed a'r 6ed o Fawrth. Mae teithiau o amgylch y llyfrgell hefyd ar gael ar y 5ed.