Mae gennym fynediad bellach i Gasgliad E-lyfrau Business Expert Press, sy'n cynnwys dros 150 o e-lyfrau cyfredol ac ymarferol ar gyfer myfyrwyr MBA a busnes ôl-raddedig.
Mae Business Expert Press yn cyhoeddi casgliadau blynyddol o e-lyfrau ar bynciau o fewn cyrsiau MBA. Mae'r llyfrau wedi'u hysgrifennu gan arbenigwyr yn y diwydiant ac academyddion ac maent yn gryno ac yn gymhwysol. Maent yn canolbwyntio ar y cwricwlwm ac wedi'u hysgrifennu i helpu myfyrwyr i wella eu dealltwriaeth o bynciau busnes yn gyflym.
Ewch ar ChwilioMet i ddod o hyd i deitlau e-lyfrau unigol Business Expert Press neu gallwch weld y casgliad cyfan ar y Cronfeydd Data A-Y.