Skip to Main Content

Gwasanaethau Llyfrgell

Benthyca a Gofyn: Defnyddio ein Llyfrgelloedd

Ar y dudalen hon:

Defnyddio llyfrgelloedd Met Caerdydd

Beth alla i ei fenthyca?

Gall myfyrwyr a staff:

  • Fenthyg hyd at 30 o lyfrau print neu DVD ar unwaith.
  • Lawrlwytho neu ddarllen nifer diderfyn o lyfrau a chyfnodolion electronig ar-lein.

Gall Benthycwyr Cymunedol, defnyddwyr SCONUL a myfyrwyr sydd wedi'u cofrestru o dan y Cynllun Benthyca Cyfatebol fenthyg pum llyfr print neu DVD ar unwaith. Edrychwch ar ein tudalen Ymwelwyr a Chyn-fyfyrwyr i gael rhagor o fanylion aelodaeth. Hwylusir mynediad i lyfrau electronig a chyfnodolion drwy'r cynllun Mynediad Galw-i-mewn.

Mae'r rhan fwyaf o'r eitemau yn ein casgliadau ar gael i'w benthyg am wythnos i ddechrau. Gwiriwch yr adran Sut ydw i'n adnewyddu fy llyfrau? i gael mwy o wybodaeth am gadw'ch benthyciadau am fwy o amser.

Mae rhai llyfrau a phob rhifyn o'n cylchgronau wedi'u bwriadu at ddibenion cyfeirio yn unig. Gellir cyrchu'r adnoddau hyn yn y llyfrgell yn ystod ein horiau agor.

Gall myfyrwyr fenthyg gliniadur fo derfynellau Lapsafe i'w defnyddio yn y tymor byr, ar y campws neu gaffael un o'r Ddesg Gymorth TG am gyfnod o hyd at bedair wythnos.

I ddod o hyd i adnoddau yn effeithlon, defnyddiwch ChwilioMet, ein catalog llyfrgell. Mae ChwilioMet yn gatalog helaeth o adnoddau. Gellir cyrchu ChwilioMet ar y campws ac o bell, naill ai'n uniongyrchol drwy'r we neu drwy ap Met Caerdydd. Am y canlyniadau gorau, mewngofnodwch i’ch cyfrif cymwysterau Met Caerdydd. Gallwch wella eich sgiliau chwilio a darganfod trwy gyfeirio at ein canllawiau isod.

Os nad yw'r Llyfrgell yn meddu ar yr adnodd sydd ei angen arnoch ar gyfer eich astudiaethau neu ymchwil, gallwch ofyn amdano naill ai drwy'r gwasanaeth Benthyciadau Rhwng Llyfrgelloedd neu gais Prynu.


Sut ydw i'n benthyca?

Eich cerdyn adnabod Met Caerdydd yw eich cerdyn llyfrgell. Mae angen eich cerdyn armoch er mwyn:

  • Benthyca llyfrau gan ddefnyddio'r ciosgau hunanwasanaeth.
  • Cael mynediad i'r mannau astudio y tu allan i oriau.

Y ffordd gyflymaf o fenthyg llyfrau yw dod o hyd iddynt ar y silffoedd a'u bengthyg gan ddefnyddio ein ciosgau hunanwasanaeth sydd ar y llawr gwaelod. Gallwch hefyd archebu’r llyfrau sydd eu hangen arnoch yn ChwilioMet a'u casglu o'r Ddesg Gymorth pan fyddwch wedi derbyn cadarnhad ein bod wedi prosesu eich cais.


Sut ydw i'n archebu llyfrau?

Mewngofnodwch i ChwilioMet gyda manylion eich cyfrif Met Caerdydd.

Dewch o hyd i'r llyfr yr hoffech ei harchebu a chlicio ar ddolen y teitl.

Yn yr adran Gosod cais, cliciwch ar Cais.

Gallwch gasglu eich archeb o lyfrgell Cyncoed neu Llandaf yn ystod ein horiau agor neu gallwn eo bostio i’ch cartref. Ychwanegwch eich cyfeiriad cartref at y blwch Sylwadau os ydych am i ni ei bostio.*/p>

Cliciwch ar Anfon y Cais.

Pan fydd yr archeb wedi'i phrosesu, byddwn yn eich hysbysu trwy e-bost. Ein nod yw prosesu archebion o fewn dau ddiwrnod gwaith os yw'r llyfr y gofynnwyd amdani ar gael. Os yw'r llyfr ar fenthyciad, bydd un copi yn cael ei alw'n ôl iar eich cyfer. Bydd yr archeb yn cael ei phrosesu pan fydd y llyfr yn cael ei alw'n ôl.

* Nid yw'r gwasanaeth dosbarthu post ar gael i fyfyrwyr Masnachfraint, staff Masnachfraint a Benthycwyr Allanol.


Sut ydw i'n adnewyddu llyfrau?

Bydd eich benthyciadau yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig, ar yr amod nad oes neb arall wedi gofyn amdanynt neu nad yw'ch cyfrif llyfrgell wedi dod i ben.

Byddwn yn eich hysbysu drwy e-bost os gofynnwyd am eich benthyciadau. Gallwch barhau i ddefnyddio'r llyfr tan ei ddyddiad dychwelyd.

Gallwch hefyd adnewyddu eich llyfrau yn ChwilioMetFy Nghyfrif Llyfrgell. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mewngofnodi gyntaf. Ni ellir adnewyddu llyfrau sydd â statws adalw. Mae angen i chi eu dychwelyd erbyn eu dyddiad dychwelyd.


Sut a phryd ydw i'n dychwelyd llyfrau?

Gallwch ddychwelyd llyfrau naill ai yn llyfrgell Cyncoed neu Landaf. Gellir dychwelyd llyfrau trwy'r cioosgau hunanwasanaeth, wrth ddesg y llyfrgell neu eu gollwng i mewn i'r blwch dychwelyd llyfrau y tu allan i'r llyfrgelloedd.

Gallwch hefyd ddychwelyd llyfrau drwy'r post. Cysylltwch â niam fwy o wybodaeth am ein gwasanaeth post am ddim.

Eithriad: Rhaid dychwelyd pob benthyciadau rhwng llyfrgelloedd yn bersonol at aelod o staff mewn Desg Gymorth Llyfrgell.

Dylech ddychwelyd eitemau a fenthyciwyd pan fyddwch wedi gorffen eu defnyddio. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi ddychwelyd eitem yn brydlon os yw benthyciwr arall wedi gofyn amdani. Byddwn yn anfon e-bost atoch os gofynnwyd am eich benthyciadau. Yna bydd angen i chi eu dychwelyd erbyn eu dyddiad dylchwelyd.

Nid oes angen eich cerdyn llyfrgell arnoch i ddychwelyd llyfrau. Mae hyn yn golygu y gall rhywun arall ddychwelyd eich benthyciad ar eich rhan.


Pam na allaf fenthyca unrhyw eitemau?

Ni chewch fenthyg unrhyw lyfr neu DVD os yw'ch cyfrif wedi'i rwystro. Gall hyn ddigwydd am y rhesymau canlynol:

  • Os na fyddwch yn dychwelyd llyfr wedi'i adalw erbyn ei ddyddiad ddychwelyd, bydd eich cyfrif llyfrgell yn cael ei gyfyngu saith diwrnod ar ôl y dyddiad ddychwelyd. Bydd y cyfyngiad yn eich atal rhag benthyca pellach ac yn cael ei godi pan fyddwch yn dychwelyd y llyfr sy’n cael ei adalw.
  • Pan fyddwch yn cwblhau eich astudiaethau neu'n gorffen eich swydd yn y Brifysgol, bydd eich cyfrif llyfrgell yn dod i ben ac o ganlyniad yn cael ei rwystro. Gallwch barhau i ddefnyddio'r llyfrgell o dan y Cynllun Benthyca Cymunedol a chael mynediad i'r llyfrgell electronig drwy'r Cynllun Mynediad Galw-i-mewn.
  • Mae cyfrifon llyfrgell Benthycwyr Cymunedol, Defnyddwyr SCONUL a myfyrwyr sydd wedi'u cofrestru o dan y Cynllun Benthyca Cyfatebol yn dod i ben ac yn cael eu blocio ar ddiwedd y cyfnod aelodaeth.

Cysylltwch â ni gydag unrhyw ymholiadau am eich cyfrif llyfrgell.


Beth yw eitem wedi’i adalw?

Os oes gennych lyfr ar fenthyg a bod defnyddiwr llyfrgell arall yn gofyn amdano, mae'r llyfr yn cael ei adalw. Byddwch yn derbyn hysbysiad e-bost am hyn.

Gallwch barhau i ddefnyddio'r llyfr tan ei ddyddiad dychwelyd ond ni fyddwch yn gallu ei adnewyddu.

Os na fyddwch yn dychwelyd llyfr sydd wedi'i adalw, bydd eich cyfrif llyfrgell yn cael ei gyfyngu saith diwrnod ar ôl y dyddiad dychwelyd.


Llyfrau sydd wedi'u colli a'u difrodi

Os caiff llyfrau rydych chi wedi’u benthyca eu colli neu eu difrod, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl. Bydd ein tîm yn ystyried sut i ddatrys y mater yn deg.

Efallai y gofynnir i chi brynu copi newydd neu dalu am un newydd. Mae ffi safonol o £50 am eitem sydd wedi'i cholli neu ei difrodi. Os yw eitem yn werth llawer mwy na £50 yna rydym yn cadw'r hawl i godi cost uwch am lyfr newydd.

Eich cyfrif Llyfrgell

Mae gan yr holl staff a myfyrwyr gyfrif llyfrgell. Caiff eich cyfrif ei greu'n awtomatig ar ddechrau eich astudiaethau neu gyflogaeth.

Gosodir cyfrif i ddefnyddwyr allanol pan fyddant yn cofrestru.

Gallwch gael mynediad i'ch cyfrif llyfrgell yn ChwilioMet. Yn y gornel dde uchaf, mewngofnodwch gyda'ch manylion Met Caerdydd ac yna ewch i Fy Nghyfrif Llyfrgell. Gallwch weld eich benthyciadau cyfredol a'u dyddiadau dychwelyd; Gwiriwch a oes unrhyw eitemau wedi cael eu hadalw neu weld hanes eich benthyciad. Gallwch hefyd wirio statws yr eitemau yr ydych wedi gofyn amdanynt.


Hysbysiadau’r llyfrgell

Mae'r llyfrgell yn anfon hysbysiadau pwysig atoch am eich cyfrif llyfrgell.

Ar ddechrau pob mis, byddwch yn derbyn crynodeb o'r eitemau sydd gennych ar fenthyg. Gwiriwch y manylion yn ofalus a chysylltwch â ni gydag unrhyw gwestiynau.

Byddwch hefyd yn derbyn e-byst am eich ceisiadau neu negeseuon atgoffa pan fydd angen dychwelyd eich benthyciadau.

Anfonir pob hysbysiad at eich cyfrif e-bost prifysgol. Mae defnyddwyr allanol yn derbyn hysbysiadau trwy'r e-bost a ddarperir ar y ffurflen gofrestru.