Neidio i'r Prif Gynnwys

Gwasanaethau Llyfrgell

Gwybyddiaeth

Rôl y meddwl

Mae gwybyddiaeth yn gosod dysgu fel proses feddyliol weithredol sy'n cynnwys caffael a threfnu gwybodaeth, gan bwysleisio rôl prosesau gwybyddol megis cof, datrys problemau a phrosesu gwybodaeth. Mae dysgu'n cael ei adeiladu trwy strwythurau meddyliol sy'n galluogi datblygu dealltwriaeth a sgiliau gyda phwyslais ar ddeall a meddwl beirniadol

Esboniadau gwybyddol o'r broses ddysgu - trosolwg cryno

Mae gwybyddiaeth yn ddamcaniaeth ddysgu sy'n pwysleisio pwysigrwydd prosesau meddyliol mewn dysgu ac mae'n seiliedig ar y rhagdybiaeth bod dysgwyr yn mynd ati i adeiladu eu gwybodaeth eu hunain trwy brosesu gwybodaeth a gwneud cysylltiadau rhwng gwybodaeth newydd a'r hyn maen nhw'n ei wybod yn barod. Fel y gwelwch, mae gan wybyddiaeth ac adeileddiaeth nifer o seiliau sylfaenol o ran natur y broses ddysgu yn gyffredin ac felly maent yn rhannu dulliau tebyg o hwyluso dysgu pan gânt eu defnyddio yn ymarferol.

Mae gwybyddwyr yn canolbwyntio ar nifer o wahanol brosesau gwybyddol sy'n cyfrannu at y broses ddysgu, gan gynnwys:
  • Sylw: Y gallu i ganolbwyntio ar wybodaeth berthnasol ac anwybyddu gwrthdyniadau.
  • Y Cof: Y gallu i storio ac adalw gwybodaeth.
  • Meddwl: Y gallu i brosesu gwybodaeth a gwneud penderfyniadau.
  • Datrys problemau: Y gallu i adnabod a goresgyn rhwystrau.
  • Creadigrwydd: Y gallu i gynhyrchu syniadau ac atebion newydd.
  • Ymgysylltu gweithredol: Mae dysgu ar ei fwyaf effeithiol pan fydd dysgwyr yn cymryd rhan weithredol yn y broses ddysgu.
  • Ysgogiad: Mae angen darparu cyfleoedd i ddysgwyr ymarfer sgiliau a gwybodaeth newydd.
Mae dulliau gwybyddiaeth a ddefnyddir i hwyluso dysgu gwybyddol yn cynnwys:
  • Rhoi fframwaith i ddysgwyr ddeall gwybodaeth newydd ymlaen llaw, er enghraifft amserlen modiwl o'r pynciau i'w cwmpasu sydd hefyd yn gweithredu felmap gwybodaeth sy'n strwythuro gwybodaeth newydd.
  • Darparu cyfleoedd i ddysgwyr ryngweithio â'r deunydd.
  • Annog dysgwyr i fyfyrio ar eu dysgu.
  • Rhoi adborth ar gynnydd dysgwyr.
Goblygiadau allweddol theori dysgu gwybyddol:
  • Mae dysgwyr yn dod â'u gwybodaeth a'u profiadau blaenorol eu hunain i'r broses ddysgu.
  • Mae prosesau meddyliol megis sylw, y cof, meddwl, datrys problemau, a chreadigrwydd yn bwysig ar gyfer dysgu.
  • Mae dysgu ar ei fwyaf effeithiol pan fydd dysgwyr yn cymryd rhan weithredol yn y broses ddysgu.
  • Mae angen darparu cyfleoedd i ddysgwyr ymarfer sgiliau a gwybodaeth newydd.
  • Mae theori dysgu gwybyddol yn arf gwerthfawr i addysgwyr oedolion.Trwy ddeall sut mae dysgwyr yn dysgu, gall addysgwyr oedolion greu profiadau dysgu sy'n effeithiol ac yn ddiddorol.

Gwybyddiaeth - Fideos allanol

Gwybyddiaeth - Podlediadau allanol

Cognitivism - Siobhan Szabo

#106 Phil Newton & Cognitivism – Podlediad Addysg Anatomeg