Skip to Main Content

Gwasanaethau Llyfrgell

Cefnogaeth Pwnc: Gweithdai a Hyfforddiant

Mae ein rhaglen gweithdai wedi dod i ben ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol. Beth am ddod yn ôl y flwyddyn academaidd nesaf i archebu eich lle ar un?

​ChwilioMet: Dysgu'r hanfodion a dod o hyd i ffynonellau o ansawdd (gweithdy ar-lein y Llyfrgell)

Mae ChwilioMet yn allweddol i'ch llwyddiant academaidd, gan eich cyfeirio at lenyddiaeth yn eich disgyblaeth. Bydd y gweithdy hanfodol hwn yn eich tywys drwy hanfodion chwilio, gan gynnwys hidlo canlyniadau. Byddwch hefyd yn dysgu sut i gadw cofnod o'ch hoff ffynonellau a defnyddio adnodd cyfeirio defnyddiol ChwilioMet.

Manylion archebu TBC

​e-Gyfnodolion: Chwilio am erthyglau cyfnodolion i wella eich aseiniadau (gweithdy ar-lein y Llyfrgell)

Fel myfyriwr Met Caerdydd, mae gennych fynediad at fwy na 115,000 o e-gyfnodolion, ond a ydych chi'n gwneud y defnydd gorau ohonynt? Yn y gweithdy hanfodol hwn, byddwch yn dysgu beth yw e-gyfnodolion, pam y dylech eu defnyddio, a sut i chwilio am erthyglau mewn e-gyfnodolion a'u cyrchu.

Manylion archebu TBC

Gwerthuso Gwybodaeth: Sut a pham y dylech wneud hynny (gweithdy ar-lein y Llyfrgell)

Nid yw popeth yr ydych chi’n ei ddarllen yn ddibynadwy. Ond sut ydych chi’n llywio eich ffordd drwy wybodaeth annibynadwy i ffynonellau sy’n addas ar gyfer eich aseiniadau? Bydd y gweithdy hanfodol hwn yn rhoi’r adnoddau i chi adnabod a gwirio dibynadwyedd. Byddwch yn cael cyfle i gymhwyso eich gwybodaeth newydd.

Manylion archebu TBC

Cronfeydd Data: Beth ydyn nhw a phryd ddylech chi chwilio drwyddynt? (gweithdy ar-lein y Llyfrgell)

Mae gwybodaeth helaeth ar gael y tu hwnt i ChwilioMet. Mae erthyglau cyfnodolion academaidd, llyfrau, papurau newydd, ystadegau, delweddau, fideos, adroddiadau technegol a mwy yn aros amdanoch yn ein casgliad o gronfeydd data. Bydd y cyflwyniad hwn i gronfeydd data Met Caerdydd yn rhoi’r hyder i chi wybod pryd y mae angen cronfa ddata arnoch a sut i ddewis y gronfa ddata gywir ar gyfer eich aseiniad.

Manylion archebu TBC

​Sut i Chwilio: Cael y gorau o ChwilioMet a chronfeydd data (gweithdy ar-lein y Llyfrgell)

Does dim byd gwaeth na methu â dod o hyd i unrhyw beth ar gyfer eich aseiniad! Ond a ydych chi wedi chwilio yn y lle cywir gan ddefnyddio’r geiriau cywir? Yn y gweithdy hwn, byddwch yn dysgu sut i ddatgodio a thaflu goleuni ar gwestiwn eich aseiniad, sut i ddefnyddio adnoddau Met Caerdydd, chwilio gyda chynllun a datrys problemau cyffredin.

Manylion archebu TBC

ChwilioMet Manylach: Datblygu’r hanfodion (gweithdy ar-lein y Llyfrgell)

Eisiau arbed amser ac ymdrech wrth sgrolio drwy dudalennau o ganlyniadau ChwilioMet? Bydd y gweithdy hwn yn dangos i chi sut i lunio chwiliadau gwych. Byddwch hefyd yn dysgu am nodweddion pori a chwilio am gyfeiriadau ChwilioMet, a all eich arwain at ffynonellau academaidd annisgwyl, ond perthnasol. Mae’r gweithdy hwn yn ychwanegu at ein gweithdy ChwilioMet sylfaenol, y byddwch wedi’i fynychu, yn ddelfrydol.

Manylion archebu TBC

​Cael y Gorau o’r Adborth

Mae adborth yn chwarae rhan hanfodol wrth ddod o hyd i lwyddiant fel dysgwr yn y brifysgol. Yn y sesiwn hon, byddwn yn archwilio'r rôl honno ac yn ystyried sut y gallwch fynd ati i droi adborth tiwtoriaid yn gamau gweithredu cadarnhaol a fydd yn eich helpu i gael marciau gwell yn eich darn nesaf o waith.

Manylion archebu TBC

​Ailymweld ag Ysgrifennu Academaidd

Cyfle i adolygu egwyddorion nodweddion ysgrifennu academaidd yng ngoleuni unrhyw adborth y gallech fod wedi'i gael yn ddiweddar. Dewch â'ch cwestiynau — mae'r gweithdy hwn yn gyfle i archwilio unrhyw beth sy'n peri pryder i chi.

Manylion archebu TBC

Dysgu yn y Brifysgol: beth yw hanfod y cyfan?

Beth yw dysgu yn y brifysgol? Sut mae'n wahanol i fathau eraill o ddysgu y gallech fod wedi eu gwneud cyn dod i Met Caerdydd? Beth mae tiwtoriaid yn ei ddisgwyl ohonoch, fel dysgwr, wrth i chi gychwyn ar eich astudiaethau? Yn y gweithdy hwn, byddwn yn archwilio'r disgwyliadau hyn trwy edrych yn fanylach ar strwythur dysgu, ei natur, a sut y gallwch ymgysylltu'n effeithiol â gofynion eich cwrs.

Manylion archebu TBC

Bod yn Feirniadol: gwneud defnydd effeithiol o ffynonellau academaidd

Bydd llawer ohonoch yn cael gwybod - neu efallai y byddwch wedi cael gwybod yn barod - i 'fod yn fwy beirniadol' gan eich tiwtoriaid, ond beth mae'n ei olygu? Beth mae tiwtoriaid yn chwilio amdano pan maen nhw'n gofyn i chi 'fod yn feirniadol'? Sut ydych chi i fod i ymgysylltu'n feirniadol â'r ffynonellau academaidd rydych chi'n eu defnyddio? Yn y sesiwn hon, byddwn yn cymryd golwg agosach ar feddwl beirniadol gan ei fod yn cael ei gymhwyso i'r ffynonellau hyn, sut mae'n edrych yn ysgrifenedig, a sut y gallwch fynd ati i fod yn 'fwy beirniadol'.

Manylion archebu TBC

Aralleirio

Mae aralleirio - mynegi'r hyn rydych chi wedi'i ddarllen yn eich geiriau eich hun - yn bwysig iawn os ydych chi'n mynd i fod yn llwyddiannus yn y brifysgol. Nid osgoi llên-ladrad yn unig; mae datblygu'r gallu i aralleirio yn eich helpu i feddwl ac ysgrifennu'n fwy beirniadol. Yn y gweithdy hwn, byddwn yn archwilio'r syniadau hyn a mwy.

Manylion archebu TBC

Adnoddau Rheoli Cyfeiriadau: Beth ydyn nhw a sut y gallan nhw eich helpu chi? (gweithdy ar-lein y Llyfrgell)

Ydych chi eisiau cadw cofnod o’r hyn rydych chi wedi’i ddarllen, storio pdfs neu ddarlleniadau, a chreu llyfryddiaeth yn Word gyda’r ymdrech lleiaf? Bydd y cyflwyniad byr hwn i adnoddau rheoli.

Manylion archebu TBC