Gallwch olygu’r wybodaeth lyfryddol ar gyfer eitemau yn eich rhestr trwy glicio ar fotwm dewisiadau eitemau a dewis Golygu eitem.
Yma gallwch ddiwygio'r math o eitem, er enghraifft nodi Pennod Llyfr os oes pennod benodol sy'n ofynnol i chi ei ddarllen. Gallwn hefyd ddigideiddio penodau unigol fel eu bod yn hygyrch yn uniongyrchol o Leganto mewn fformat PDF fel yr eglurwyd uchod.
Os ydych am ychwanegu nodiadau at eitem, cliciwch ar yr eitem yn y rhestr i ddangos gwybodaeth ychwanegol fel tagiau a dolenni. Yma gallwch ychwanegu nodyn ar gyfer myfyrwyr sy'n weladwy i unrhyw un sy'n edrych ar y rhestr. Mae hyn hefyd yn weladwy o dan y tab gweithredoedd eitem pan gliciwch ar fanylion llawn. Os ydych am ychwanegu nodyn preifat mae'r opsiwn ar gael o dan y tab manylion yr eitem.
Gallwch ychwanegu pobl eraill fel cydweithredwyr at eich rhestrau, er mwyn caniatáu iddynt ychwanegu a golygu eitemau.
Mae dwy lefel o gydweithredwr:
Mae gan gydweithwyr newydd lefel ddiofyn Golygydd, ond gall perchennog y rhestr ail-aseinio lefelau.
Os ydych chi'n hyfforddwr neu'n gydweithiwr ar Restr Ddarllen ac nad ydych yn dymuno bod, gallwch dynnu'ch hun o'r rhestr: