Gallwch ddefnyddio Leganto trwy fewngofnodi i Moodle a chlicio ar ddolen y Rhestr Ddarllen yn newislen y modiwl gofynnol, neu drwy glicio yma a mewngofnodi gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Met Caerdydd.
Y tro cyntaf y byddwch yn defnyddio Leganto fe welwch gyflwyniad 'Croeso i’ch rhestrau darllen'. Darllenwch y camau a dilyn y cyfarwyddiadau i osod Cite It! yn nodau tudalen eich porwr. Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn ar gael yn adran Creu y canllaw hwn.
Gellir gweld rhyngwyneb Leganto naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg. I ddewis eich dewis iaith, cliciwch ar y cog Gosodiadau ar ochr dde uchaf y sgrin a dewiswch Saesneg. Bydd blwch Dewiswch eich iaith yn agor. Dewiswch Cymraeg a Cau.
Er mwyn galluogi'ch myfyrwyr i gyrchu’r rhestr ddarllen ar gyfer eu modiwl mae angen i chi ychwanegu'r ddolen i Leganto i'ch modiwl Moodle. Bydd yr offeryn rhestr ddarllen (LTI Link) yn trolio gyda'ch modiwl Moodle ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.
Nawr mae angen i chi ffurfweddu'r Offeryn Allanol newydd:
Sylwer - Rhaid gosod dolenni’r rhestr ddarllen a ychwanegir gyda'r Offeryn Allanol ym mhrif fodiwl y cwrs unigol ac ni chaniateir i chi ei gosod o fewn meta-fodiwl nac o fewn modiwl sydd ddim ar y system. Os ydych yn gweithio gyda meta-fodiwl neu fodiwl sydd ddim ar y system, gall gweinyddwr Moodle eich Ysgol eich cynghori ar sut i fwrw ati.
Bydd yr holl restrau rydych chi'n eu rheoli neu'n cyfrannu atynt yn ymddangos yn Rhestrau.
Ffefrynnau yw eich llyfrgell o ddyfyniadau personol eich hun a gall fod yn fan cychwyn i gasglu eitemau yr hoffech eu defnyddio yn eich rhestrau darllen. Gallwch gadw eitemau yma i’w cyrchu’n hawdd a’u hychwanegu at restrau darllen nes ymlaen. Gallwch ddod o hyd i gyfarwyddiadau ar sut i ychwanegu eitemau at restr ddarllen o Ffefrynnau yn adran Creu y canllaw hwn.
I gadw golwg ar yr eitemau yn eich casgliad personol gallwch ychwanegu tagiau preifat i'w hidlo. Mae unrhyw dagiau a nodiadau a ychwanegir at Ffefrynnau yn bersonol i chi ac ni fyddant yn weladwy pan fydd yr eitem yn cael ei hychwanegu at restr ddarllen. Cliciwch ar y teitl i ddangos y meysydd nodyn/tag preifat a ddangosir uchod.