Skip to Main Content

Gwasanaethau Llyfrgell

Ysgrifennu academaidd

Mynnwch eich llais academaidd!

Darganfyddwch a datblygwch eich 'llais academaidd' ysgrifenedig i fynegi dadl feirniadol yn well yng nghyd-destun trafodaethau disgyblaethol ehangach, a drwy wneud hynny, dangos i'ch aseswyr bod eich gallu i ddangos meini prawf asesu a disgrifyddion marcio uwch.

Beth yw ysgrifennu academaidd?

Mae ysgrifennu academaidd yn ddull ffurfiol a strwythuredig o gyfathrebu’n ysgrifenedig a ddefnyddir mewn addysg uwch. Fel myfyriwr, disgwylir i chi gadw at gonfensiynau ysgrifennu academaidd yn y rhan fwyaf o asesiadau ysgrifenedig. Yng nghyd-destunau ymchwil a thrafodaethau academaidd fe'i defnyddir fel modd o gyfleu canfyddiadau, cymryd rhan mewn dadlau academaidd ffurfiol cyhoeddedig ac fel modd o gyfnewid syniadau academaidd deallusol. Mae ysgrifennu academaidd a chynnwys ysgrifenedig yn cadw at gonfensiynau penodol, gyda'r nod o gyfleu syniadau, dadleuon a chanfyddiadau ymchwil cymhleth mewn modd clir, trefnus a gwrthrychol. Mae priodoleddau allweddol ysgrifennu academaidd yn cynnwys cywirdeb, cysondeb, llif rhesymegol, a’r defnydd o iaith ffurfiol. Y prif amcan yw cyfrannu at gorff cyfunol o wybodaeth drwy rannu mewnwelediadau, datblygu damcaniaethau, a chymryd rhan mewn trafodaeth ddeallusol o fewn disgyblaeth benodol. Caiff ysgrifennu academaidd ei nodweddu gan ddadlau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ymagwedd feirniadol at dystiolaeth a dadlau ac i ddyfynnu a chydnabod ffynonellau. Mae'n gofyn am ddadansoddiad beirniadol, synthesis o'r wybodaeth bresennol, a datblygu mewnwelediadau gwreiddiol. Mae hefyd yn gofyn am ymchwil drylwyr ac ymrwymiad i arferion moesegol, gan gynnwys osgoi llên-ladrad a chydnabod syniadau gan awduron gwreiddiol yn gywir a phriodol. Fel dull asesu yn y brifysgol, mae ysgrifennu academaidd yn cynnwys nifer o ffurfiau, megis traethodau, papurau ymchwil, thesisau, ac erthyglau ysgolheigaidd.

Pam mae'n bwysig yn y brifysgol?

Mae ysgrifennu academaidd yn sgil hanfodol yn y brifysgol am sawl rheswm. Mae'n meithrin meddwl beirniadol trwy gymhwyso galluoedd dadansoddol a gwerthusol, mae'n annog myfyrwyr i gyfosod gwybodaeth o ffynonellau amrywiol cyn prosesu a mynegi eu dealltwriaeth neu ddehongliad o'r prosesau beirniadol hyn yn fanwl ac yn glir. Mae hyn i gyd wrth gwrs yn dod trwy arfer, a thrwy roi sylw manwl i faes pwnc y mae myfyrwyr yn mireinio eu dealltwriaeth o'r cysyniadau mwy cymhleth sy'n strwythuro eu maes pwnc ac yn gwella eu gallu i’w drafod ar lefel uwch ac ehangu eu sgiliau cyfathrebu. Mae ysgrifennu academaidd hefyd yn meithrin gallu dysgwyr i astudio ac ymchwilio'n annibynnol wrth iddynt ddysgu archwilio meysydd pwnc, nodi awduron allweddol neu syniadau cyffredin wrth gasglu a beirniadu tystiolaeth ac, yn y pen draw, i ddysgu cyfrannu eu canfyddiadau neu syniadau eu hunain i'r corff presennol o wybodaeth am y pwnc.

Ysgrifennu academaidd yw'r prif ffordd y mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn trafodaeth ysgolheigaidd ysgrifenedig. Mae datblygu'r sgil hon yn arfogi dysgwyr i gymryd rhan weithredol mewn sgyrsiau academaidd, cyfrannu'n ystyrlon at ddadleuon, a chyflwyno eu mewnwelediadau i gynulleidfa ehangach wrth ymchwilio a chydnabod gwaith pobl eraill, ac wrth wneud hynny hyrwyddo uniondeb ac arferion ymchwil moesegol. Mae llawer o yrfaoedd yn mynnu cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol ac felly gall meistroli ysgrifennu academaidd arfogi myfyrwyr â sgil broffesiynol werthfawr. Yn gyffredinol, mae ysgrifennu academaidd yn grymuso myfyrwyr i ymchwilio i bynciau yn ddwfn, mynegi eu syniadau'n effeithiol, a gwneud cyfraniadau ystyrlon i'r gymuned academaidd a thu hwnt.

Manteision datblygu eich sgiliau ysgrifennu academaidd

  • Hyfedredd iaith: Mae cymryd rhan mewn ysgrifennu academaidd yn mireinio eich hyfedredd iaith, ac yn ehangu eich geirfa a gwella eich gafael ar ramadeg a chystrawen.
  • Sylw i fanylion: Mae manyldeb a chywirdeb iaith yn rhan hanfodol o ysgrifennu academaidd, ac yn meithrin gwerthfawrogiad o waith manwl.
  • Eglurder mynegiant: Mae ysgrifennu academaidd yn eich dysgu sut i gyfathrebu syniadau cymhleth yn glir ac yn effeithiol, gan wella eich sgiliau cyfathrebu.
  • Ymgysylltu â llenyddiaeth: Mae ysgrifennu academaidd yn annog ymgysylltu â llenyddiaeth ysgolheigaidd, gan eich helpu i gadw'n gyfredol â'r ymchwil a'r syniadau diweddaraf yn eich maes.
  • Dylanwad ac effaith: Mae gan ysgrifennu academaidd crefftus y potensial i ddylanwadu ar bolisïau, arferion a chanfyddiadau, gan gyfrannu at hyrwyddo cymdeithas yn ei chyfanrwydd.
  • Hygrededd: Mae ysgrifennu academaidd hyfedr yn rhoi hygrededd i'ch syniadau, gan ei fod yn dangos meistrolaeth o’r pwnc ac ymrwymiad i gywirdeb deallusol.
  • Disgyblaeth: Mae'r broses o ddrafftio, adolygu a mireinio eich gwaith yn meithrin hunanddisgyblaeth, amynedd a dyfalbarhad.
  • Amgyffrediad: Mae ysgrifennu academaidd yn eich galluogi i rannu eich syniadau â chynulleidfa fyd-eang, gan gyfrannu at gyfnewid a chydweithio traws-ddiwylliannol.
  • Hyder: Mae meistroli'r grefft o ysgrifennu academaidd yn rhoi hwb i'ch hyder wrth fynegi syniadau cymhleth a chymryd rhan mewn trafodaeth ysgolheigaidd.
  • Rhyngweithio gyda chymheiriaid: Mae rhannu eich ysgrifennu academaidd gyda chymheiriaid a derbyn adborth yn meithrin ymdeimlad o gymuned ac yn helpu i fireinio'ch syniadau trwy feirniadaeth adeiladol.
  • Meddwl strwythuredig: Mae dysgu ysgrifennu'n academaidd yn eich helpu i strwythuro'ch syniadau'n rhesymegol, gan alluogi darllenwyr i ddilyn eich proses o feddwl yn hawdd.
  • Meddwl yn feirniadol: Mae'r broses o drefnu eich meddyliau a'ch dadleuon yn mireinio eich gallu i feddwl yn feirniadol, ac yn eich galluogi i ddadansoddi a gwerthuso gwybodaeth yn ddyfnach.
  • Ymdrafod y effeithiol: Mae ysgrifennu academaidd yn eich dysgu i ddatblygu a chyflwyno dadleuon argyhoeddiadol, sgil hanfodol wrth berswadio eraill a gwneud penderfyniadau gwybodus.
  • Sgiliau dadansoddol: Mae llunio dadleuon strwythuredig da yn gofyn am lefel uchel o feddwl dadansoddol, y gellir ei ddefnyddio i ddatrys problemau mewn cyd-destunau amrywiol.
  • Twf deallusol: Mae ysgrifennu academaidd yn eich annog i archwilio cysyniadau newydd ac ehangu eich gorwelion deallusol.
  • Sgiliau ymchwil: Mae ysgrifennu academaidd yn aml yn gofyn am ymchwil helaeth, gan feithrin eich gallu i ddarganfod, asesu ac integreiddio gwybodaeth o ffynonellau amrywiol.
  • Dogfennu eich dysgu: Mae ysgrifennu'n academaidd yn eich galluogi i gofnodi eich taith ddysgu a myfyrio ar eich dealltwriaeth esblygol o bwnc dros amser.
  • Llwyddiant academaidd: : Mae sgiliau ysgrifennu cryf yn hanfodol ar gyfer llwyddiant academaidd, gan ddylanwadu ar raddau, gwerthusiadau, a pherfformiad cyffredinol mewn lleoliadau addysgol.
  • Cyfleoedd i gyhoeddi: Gall meistroli ysgrifennu academaidd agor drysau i gyhoeddi papurau ymchwil, gan gyfrannu at hyrwyddo gwybodaeth yn eich maes.
  • Datblygiad proffesiynol: Mewn llawer o broffesiynau, mae'r gallu i gyfleu gwybodaeth yn glir trwy ysgrifennu yn cael ei werthfawrogi'n fawr, gan arwain at well rhagolygon gyrfa.

Ysgrifennu academaidd - technegau ac arddulliau

Ysgrifennu academaidd - Mae'r canllaw defnyddiol hwn yn gwahaniaethu rhwng ysgrifennu academaidd a mathau eraill o ysgrifennu ac, wrth wneud hynny, yn egluro ei nodweddion diffiniol y byddwch yn ceisio eu dangos i'ch aseswyr.

Technegau ysgrifennu: Llunio paragraffau - Mae'r canllaw hwn yn archwilio rôl a strwythur y paragraff fel y'i defnyddir ar gyfer ysgrifennu academaidd. Defnyddiwch ef i ddeall yn well yr hyn y mae angen i chi ei gyflawni cyn ysgrifennu yn ogystal â ffordd o hunanwerthuso eich paragraffau drafft wrth i chi adolygu a golygu eich aseiniad neu ysgrifennu prosiect ymchwil.

Defnyddio'r llais gweithredol a goddefol - mae'r canllaw hwn yn archwilio dull bwysig o ddatblygu arddull ysgrifennu academaidd mwy manwl gywir. Trwy gydnabod y gwahaniaethau rhwng y llais goddefol a gweithredol (neu arddulliau ysgrifenedig) yn strwythur brawddegau. Mae llais gweithredol yn cael ei nodweddu gan strwythur brawddegau mwy pendant, manwl gywir ac ystyrlon sy'n cadarnhau eich ystyr arfaethedig i’r darllenydd.

Gwallau ysgrifennu cyffredin - Defnyddiwch y canllaw pwysig hwn! Mae'n archwilio sawl camgymeriad ysgrifennu hynod gyffredin y mae aseswyr yn dod ar eu traws. Darllenwch y canllaw hwn er mwyn codi eich ymwybyddiaeth o'r camgymeriadau hyn ac i ddefnyddio’r cyngor y mae'n ei gynnig wrth i chi ddrafftio a golygu darn terfynol o waith er mwyn gweld a ydych yn chi’n gwneud y camgymeriadau hyn heb sylweddoli a'u cywiro cyn ei gyflwyno.

Ysgrifennu eich aseiniad: proses awgrymedig - Mae'r canllaw hwn yn awgrymu proses saith cam gydag awgrymiadau a chyngor cysylltiedig ar gyfer cynllunio, ymchwilio, ysgrifennu a golygu aseiniad ysgrifenedig a asesir. Defnyddiwch ef fel y mae, neu fel sail ar gyfer datblygu eich dull presennol o ysgrifennu aseiniadau academaidd a thraethodau.

Ysgrifennu academaidd - strwythur a gramadeg

Brawddegau, cymalau ac ymadroddion

Strwythur brawddegau: GBG

Cynlluniwch eich paragraffau, strwythurwch eich traethawd - Defnyddiwch yr awgrymiadau templed testun paragraff cryno hyn i feddwl sut y bydd eich darn o ysgrifennu academaidd yn llifo'n gydlynol, gyda phob un o’ch trafodaethau ysgrifenedig ar bynciau gwahanol, yn arwain at y nesaf.

Defnyddio'r collnod

Blogio: Ysgrifennu blog effeithiol

Ysgrifennu academaidd a'r broses asesu

Deall teitlau tasg asesu - beth y gofynnir i chi ei wneud? - Mae'r canllaw hwn yn cynnig cyngor ar sefydlu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddangos tystiolaeth o fewn tasgau asesu ysgrifenedig yn ogystal ag awgrymiadau ar gyfer datblygu eich geirfa academaidd a'ch arddull ysgrifennu.

Hunanasesiad ysgrifennu academaidd 1: Ydw i'n ysgrifennu mewn arddull academaidd? - Defnyddiwch y gyfres hon o awgrymiadau myfyriol i hunanasesu pa mor academaidd yw eich ysgrifennu? A yw'n cyflawni'r nodweddion cyffredin hyn a rhinweddau ysgrifennu academaidd da?

Hunanasesiad ysgrifennu academaidd 2: A yw fy ngwaith yn bodloni’r meini prawf marcio ysgrifennu academaidd allweddol? - Gan ymestyn y syniadau a godwyd yn y daflen waith uchod, gellir defnyddio’r rhestr wirio ddefnyddiol hon i hunanasesu eich ysgrifennu academaidd eich hun yn erbyn ystod o fathau o feini prawf a ddefnyddir yn gyffredin, sydd i’w cael yn aml mewn disgrifyddion marcio i’ch cynorthwyo chi wrth asesu ansawdd eich gwaith ysgrifennu academaidd. Aseswch eich hun! Ydych chi wedi llwyddo? Pa farc fyddech chi'n ei ddyfarnu i chi'ch hun?

Darperir y dolenni allanol hyn mewn perthynas ag ansawdd y wybodaeth a'r cyngor cyffredinol a ddarperir ganddynt am y maes pwnc academaidd penodol hwn.

Ymwadiad byr: mae’r adnoddau ar y dudalen hon wedi cael eu creu gan sefydliadau ac unigolion y tu allan i Met Caerdydd ac nid yw’r wybodaeth a chyngor penodol a roddir, yn enwedig o ran polisïau, gwasanaethau, darpariaeth ac arferion prifysgolion eraill yn cyfeirio at rai Met Caerdydd. Rydym yn argymell eich bod yn ymweld â Llawlyfr Academaidd Prifysgol Metropolitan Caerdydd i ddarllen y polisïau, prosesau a gweithdrefnau perthnasol sy'n berthnasol i fyfyrwyr Met Caerdydd pe bai angen.

Datblygu eich ysgrifennu academaidd

Gwefannau
Fideos

Ysgrifennu traethawd

Gwefannau
Fideos
Podlediadau