Leganto - Rhyngwyneb Defnyddwyr Newydd
Bydd Leganto, sef offeryn rheoli rhestr ddarllen y Brifysgol, yn cael ei uwchraddio ddydd Llun 3 Mehefin 2024, i ddarparu rhyngwyneb defnyddwyr newydd, gyda llif gwaith gwell, i staff a myfyrwyr.
Beth mae'n ei olygu i chi?
Mae'r URL yn dal yr un fath. Mae’r integreiddiad â Moodle yr un fath o hyd. Mae'r rhyngwyneb newydd yn golygu y byddwch yn gallu cyhoeddi eich rhestr ar unwaith i'ch myfyrwyr ei gweld, gyda sieciau'r Llyfrgell yn dilyn y cyhoeddiad.
Hyfforddiant:
Bydd canllawiau i ddefnyddwyr a thudalennau gwe newydd i ddangos i chi sut i ddefnyddio'r rhyngwyneb Defnyddwyr newydd ar gael cyn hir. Byddwn hefyd yn cynnal nifer o sesiynau, a fydd yn canolbwyntio ar 2 ffordd;
- Defnyddwyr Leganto profiadol a chyflwyno'r UI newydd.
- Cyflwyniad i Leganto ar gyfer defnyddwyr newydd.
Bydd modd archebu hyfforddiant trwy'r Pwll Dysgu, ac edrychwn ymlaen at arddangos y Leganto newydd.
Os hoffech ragor o wybodaeth e-bostiwch libraryacademicservices@cardiffmet.ac.uk