Mae angen mewngofnodi ychwanegol | Additional registration/login required
Ap ffôn symudol ar gael | Mobile app available
Mae'r cronfeydd data canlynol newydd eu caffael neu'n cael eu gwerthuso ar gyfer tanysgrifiad yn y dyfodol | The following databases are newly acquired or being evaluated for a future subscription.
Gyda dros 125 o ddramâu, mae casgliad Aurora Metro Books yn cynnig rhestr hynod gyfoes o ddramâu newydd gyda ffocws ar ddramâu merched, dramâu rhyngwladol, cyfieithiadau o ddramâu, a dramâu gan awduron Du ac Asiaidd.
Mae’r casgliad hwn yn cynnwys dros 800 o ddramâu gan nifer o ddramodwyr amlycaf y DU ac Iwerddon, yn ogystal â lleisiau newydd cyffrous. Mae’n cynnig ystod eang ac amrywiol o ddramâu arobryn ac wedi’u hastudio’n eang, ac yn cael ei diweddaru’n barhaus gyda gweithiau newydd sy’n ffres o theatrau blaenllaw.
Overton yw’r mynegai chwiliadwy mwyaf yn y byd o ddogfennau polisi, canllawiau, cyhoeddiadau melinau trafod a phapurau gwaith. Mae'n casglu data o 188 o wledydd a dros fil o ffynonellau ledled y byd gyda mwy yn cael eu hychwanegu drwy'r amser. Mae angen cofrestru gyda chyfeiriad e-bost Met Caerdydd.
Mae Fideo Dulliau Ymchwil Sage: Ymchwil Ymarferol a Sgiliau Academaidd yn cefnogi'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i gwblhau ymchwil, gan gynnwys ysgrifennu cynigion, dylunio prosiectau, a sicrhau cymeradwyaeth foesegol.
Mae ProQuest Central yn dod â llawer o'n cronfeydd data a ddefnyddir fwyaf at ei gilydd i greu cronfa ddata ymchwil amlddisgyblaethol gynhwysfawr ac amrywiol.