SYLWCH: Mae'r wybodaeth ganlynol yn berthnasol i Staff Met Caerdydd yn unig.

Mae gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd drwydded hawlfraint sy'n galluogi academyddion a staff cymorth i lungopïo, sganio ac ailddefnyddio deunydd cyhoeddedig, megis llyfrau, cyfnodolion, a deunydd digidol gwreiddiol i gefnogi Dysgu ac Addysgu. Ar hyn o bryd mae'r Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (CLA) yn cynnal ymarfer casglu data o bell ynghylch llungopïo ac argraffu'r gweithiau cyhoeddedig hyn.

Mae'r wybodaeth hon yn helpu'r CLA i dalu'r awduron, y cyhoeddwyr a'r artistiaid gweledol y mae eu gwaith yn cael ei gopïo, felly mae ein rôl yn rhan annatod a gwerthfawr o'r broses hon. Efallai y bydd rhai o'r crewyr a fydd, o ganlyniad i'r ymarfer hwn, yn derbyn breindaliadau ar gyfer ailddefnyddio eu gwaith hyd yn oed yn staff yn ein prifysgol!

Mae'r ymarfer yn rhedeg rhwng 20fed Ionawr 2025 a 7fed Mawrth 2025

Yn ystod y cyfnod hwn dylid cofnodi unrhyw ailddefnyddio perthnasol ar-lein gan ddefnyddio'r ddolen isod, ac rydym yn argymell eich bod yn arbed naill ai i'ch ffefrynnau, nodau tudalen neu bwrdd gwaith:

Cliciwch yma i gyflwyno data am eich llungopïo/argraffu