Croeso Nôl!

Mae llawer yn digwydd ar ddechrau unrhyw dymor newydd. Bydd rownd newydd o weithdai academaidd yn cael ei lansio; arddangosfeydd llyfrau newydd yn mynd i fyny; rhai myfyrwyr newydd yn cyrraedd; a dosbarthiadau newydd yn cael eu cymryd. Ond dyma bedwar peth y tu allan i Met Caerdydd efallai yr hoffech eu rhoi ar eich calendr ar gyfer y mis nesaf:


 

1) 20fed -26ain: Wythnos Gwybodaeth Iechyd. 
Mae Wythnos Gwybodaeth Iechyd yn ymgyrch sy'n hyrwyddo gwybodaeth iechyd o ansawdd uchel i gleifion a'r cyhoedd. Darganfyddwch sut i gael cymorth iechyd y gallwch ymddiried ynddo yma (Gwybodaeth Gyhoeddus | Wythnos Gwybodaeth Iechyd)a chadwch lygad ar ein Instagram, @cardiffmetlearn, am adnoddau yr wythnos honno!

2) 27ain: Diwrnod Cofio'r Holocost 
Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn ddiwrnod o gofio’r miliynau o bobl a lofruddiwyd trwy’r erledigaeth Natsïaidd ar bobl Iddewig a grwpiau eraill, yn ogystal â dioddefwyr hil-laddiad mwy diweddar. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost

3) Ionawr 24: Diwrnod Rhyngwladol Addysg 
Mae addysg yn hawl ddynol, ac mae Diwrnod Rhyngwladol Addysg yn dathlu pwysigrwydd addysg i bawb. Ar y 24ain, cymerwch eiliad i feddwl am yr effaith gadarnhaol y mae addysgwr wedi'i chael arnoch chi - boed hynny yma, ym Met Caerdydd, neu ar ryw adeg arall yn eich bywyd. Ac os ydych chi'n hyfforddi i fynd i fyd addysg, fel y mae llawer ym Met Caerdydd, neu os yw'ch llwybr yn rhywle arall, ystyriwch pa fath o wersi rydych chi am eu trosglwyddo i'r bobl o'ch cwmpas wrth i chi fynd trwy'ch bywyd.

4) Ionawr 29-31: Dathliadau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd 
Mae Blwyddyn Newydd y Lleuad yn cychwyn ar y 29ain o Ionawr, ac yn tywys ym Mlwyddyn y Neidr. Mae tîm y Llyfrgell ym Met Caerdydd yn dymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb!