Mae creu a mireinio eich aseiniadau yn rhan hanfodol o'ch gradd, ac fel unrhyw beth, gallwch ddatblygu'r sgiliau hyn wrth i chi weithio trwy eich cwrs.
Tiwtor Cwrs – Dechreuwch yma. Dyma'r person fydd yn marcio eich aseiniadau, felly mae angen i chi fod yn glir ar beth maen nhw eisiau ac angen ei weld o’ch gwaith.
Mae'r tîm o Arbenigwyr Sgiliau Academaidd sy'n gweithio gyda'n tîm o Lyfrgellwyr Academaidd wedi datblygu amrywiaeth o fodiwlau ac adnoddau ar StudySmart i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu, o feddwl yn feirniadol drwodd i gyfeirnodi.
Mae gennym hefyd weithdai byw y gallwch chi eu mynychu yn ystod y flwyddyn academaidd, gan gwmpasu'r un sgiliau, mewn lleoliad wyneb yn wyneb, yn y dosbarth neu ar Teams. Mae'r gweithdai byw a modiwlau StudySmart yn ategu ei gilydd ac yn rhoi opsiynau i chi ar sut rydych chi am ddatblygu eich dysgu.