Skip to Main Content

Gwasanaethau Llyfrgell

e-Adnoddau a Gwefannau

e-Adnoddau ac cronfeydd data

Mae Met Caerdydd yn dal trwyddedau ar gyfer ein holl gronfeydd data a chyfnodolion electronig.  

Yn y mwyafrif o achosion trefnir bod yr adnoddau hyn ar gael i staff a myfyrwyr Met Caerdydd o dan delerau llym at ddibenion preifat ​chwilio ac astudio. Mae'n bwysig eich bod yn cadw at y telerau ac amodau penodol ar gyfer pob adnodd gan fod camddefnydd yn peryglu mynediad electronig i'r brifysgol gyfan. Yn benodol:  

  • Ni ddylech roi eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair i unrhyw un arall i'w galluogi i gael mynediad i'n e-adnoddau
  • Ni ddylech anfon copïau o unrhyw ran o'r wybodaeth a gafwyd o'r cronfeydd data ymlaen at ddefnyddiwr nad yw wedi'i awdurdodi i ddefnyddio'r adnodd
  • Rhaid i chi beidio ag ailgyhoeddi'r deunydd mewn unrhyw ffurf (h.y. ar y we, yn Moodle ac ati) heb ganiatâd penodol gan berchennog yr hawlfraint. Os hoffech gyfeirio unrhyw un at gronfa ddata benodol neu erthygl mewn cyfnodolyn defnyddiwch hyperddolen yn lle hynny.

Atgoffir staff a myfyrwyr o'r amodau defnyddio TG y maent wedi'u derbyn.  

Anogir staff hefyd i edrych ar y Polisi Defnydd Derbyniol TG am ragor o wybodaeth.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau hawlfraint penodol ychwanegol ynghylch e-adnoddau, cysylltwch â electronicservices@cardiffmet.ac.uk

Gwefannau

Os ydych am ddefnyddio deunydd o'r Rhyngrwyd dylech fod yn ymwybodol, er bod rhywfaint o gynnwys ar y we yn cael ei gynnig yn rhad ac am ddim i chi ei gopïo, nid yw'r rhan fwyaf ohono. Bydd gan bob gwefan ei hysbysiad hawlfraint ei hun lle gallwch wirio'r cyfyngiadau ar ddefnyddio ei chynnwys.  

Cyswllt Byw  

Mae modd mynd o gwmpas y mater o hawlfraint ar wefannau trwy daflunio tudalennau neu chwarae sain o wefannau yn fyw yn ystod darlith neu seminar. Gelwir hyn yn "gysylltu byw". Nid yw cyswllt byw â gwefan yn cael ei ystyried yn gopïo ac nid ydych yn torri cyfraith hawlfraint trwy ddangos tudalennau gwe fel hyn.  

Defnyddiwch yr URL i wneud hyn - gallwch hefyd ddarparu dolen i dudalen we (yn hytrach na chopïo ei chynnwys) i fodiwl Moodle neu restr ddarllen Leganto heb dorri cyfraith hawlfraint.  

Mewnblannu  

Yn yr un modd, os ydych chi'n mewblannu fideo YouTube neu fap Google mewn blog, rydych chi'n dod â ffynhonnell wreiddiol y cynnwys hwnnw i'ch gwefan yn hytrach na chreu copi arall ohono ac felly eto nid yw hyn yn mynd yn groes i hawlfraint.  

Yn gofyn am ganiatâd i gopïo  

Beth i'w wneud os yw cyfyngiadau hawlfraint yn eich atal rhag copïo a defnyddio cynnwys gwe yn y ffordd yr oeddech yn dymuno:  

  • Os yw'r cynnwys hefyd yn bodoli mewn ffurf brintiedig efallai y gallwch gael copi sydd wedi'i glirio at ddefnydd addysgol trwy ddefnyddio Gwasanaeth Digido'r Llyfrgell.
  • Gallwch gysylltu â pherchennog yr hawliau yn uniongyrchol i ofyn am ganiatâd i ddefnyddio eu cynnwys.

Cymorth pellach

Am arweiniad pellach ar unrhyw beth yn ymwneud â hawlfraint, cysylltwch â centralservices@cardiffmet.ac.uk