Skip to Main Content

Gwasanaethau Llyfrgell

Hawlfraint

Hanfodion hawlfraint

Mae hawlfraint yn hawl eiddo deallusol sy'n bodoli'n awtomatig cyn gynted ag y caiff gwaith ei greu (h.y. nid oes angen i chi wneud cais am hawlfraint). Mae cyfraith hawlfraint wedi'i chynllunio i ddiogelu hawliau awduron, artistiaid, cerddorion, ffotograffwyr, cyhoeddwyr a chrewyr eraill.  

Mae’n bosibl y bydd angen i unigolion sydd am atgynhyrchu gwaith gwreiddiol eraill ofyn am ganiatâd i wneud hynny.  

Mae Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau, 1988 (CPDA) yn diffinio'r hyn y gallwn ac na allwn ei wneud. Hanfod y ddeddf yw gwarchod buddiannau masnachol.

Mae’r mathau canlynol o ddeunydd wedi’u diogelu gan hawlfraint:

  • Gweithiau llenyddol (argraffu ac electronig)
  • Gweithiau cerddorol
  • Gweithiau artistig (diagramau, darluniau, ffotograffau)
  • Recordiadau sain
  • Ffilmiau, DVD, fideos
  • Darllediadau radio a theledu
  • Trefniant argraffyddol o argraffiadau cyhoeddedig

 Mae’r gweithgareddau canlynol wedi’u cyfyngu dan hawlfraint: :

  • Copïo
  • Rhoi copïau i'r cyhoedd, eu rhentu neu eu benthyca
  • Perfformio, dangos neu chwarae'n gyhoeddus
  • Darlledu
  • Addasu neu ddiwygio gwaith
  • Mewnforio, dosbarthu neu gaffael copïau tor-rheol

Nid yw cyfraith hawlfraint yn diogelu syniadau ar gyfer gwaith, dyma lle mae'n aml yn cael ei ddrysu â meysydd eraill o eiddo deallusol. I ddeall y gwahanol fathau o eiddo deallusol, a'r hyn y maent yn ei gwmpasu, gweler gwefan y Swyddfa Eiddo Deallusol  am ragor o fanylion.

Pwy sy'n berchen ar hawlfraint?

Perchennog hawlfraint fel arfer yw’r person a greodd y deunydd ond mae eithriadau:  

  • Os yw unigolyn yn creu deunydd o dan delerau ei gyflogaeth, yna'r cyflogwr sydd â'r hawlfraint fel arfer.  
  • Trwy gyflwyno deunydd i'w gyhoeddi, mae awdur yn aml yn llofnodi hawlfraint i gyhoeddwr y llyfr neu'r cyfnodolyn.  

Pa mor hir mae hawlfraint yn para?

Mae hawlfraint yn berthnasol i wahanol fathau o waith am gyfnodau amrywiol o amser:  

 Gwaith llenyddol, dramatig, cerddorol neu artistig 

 70 mlynedd ar ôl marwolaeth yr awdur​ ​​ 

​ Ffilmiau   

 70 mlynedd ar ôl marwolaeth y cyfarwyddwr, awdur sgript a chyfansoddwr 

 Recordiadau sain a cherddoriaeth 

 70 mlynedd ar ôl iddo gael ei gyhoeddi gyntaf  

​​ Darllediadau 

 50 mlynedd o'i ddarlledu gyntaf  

 Cynllun argraffiadau cyhoeddedig o weithiau ysgrifenedig, dramatig neu gerddorol   

 25 mlynedd o'i gyhoeddi gyntaf  

 

Mae'r cyfnod amser yn rhedeg o ddiwedd y flwyddyn galendr y bu farw'r awdur(on) neu o'r adeg y gwnaed y darllediad neu'r recordiad sain. Pan ddaw'r hawlfraint i ben, mae'r gwaith yn dod i mewn i'r parth cyhoeddus, sy'n golygu y gall unrhyw un ei ddefnyddio a'i ailddefnyddio am ddim heb yr angen i gael caniatâd perchennog yr hawlfraint.