Gweithdai
Mae Gweithdai Ysgrifennu ac Ymarfer Academaidd yn parhau i redeg - ac yn cynnwys sut i gael y gorau o offer AI, a sut i baratoi ar gyfer eich arholiadau neu'ch traethawd hir. Mae rhagor o fanylion ac opsiynau archebu yma.
Digwyddiadau ac Achlysuron Allanol.
Mae Mis Hanes Anabledd y DU yn ymgyrch sy'n neilltuo amser i dynnu sylw pobl anabl drwy gydol hanes y DU, ac yn enwedig ar y brwydrau dros gydraddoldeb a hawliau dynol y mae'r gymuned ababl yn eu hwynebu. Y thema eleni yw “Anabledd, Bywyd a Marwolaeth”. Gallwch ddarganfod mwy drwy fynd i https://ukdhm.org. oes angen unrhyw fath o gymorth arnoch gallwch estyn allan at wasanaethau myfyrwyr , pori drqy ein tudalen lles,, neu siarad ag aelod o staff.
Movember Mae Tashwedd yn ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o Iechyd Dynion. Gallwch ddarganfod mwy yma
Wythnos Siarad Arian: 3 -7 Tachwedd. Mae ein Cydweithwyr yn y Tîm Cyngor Ariannol ar gael i roi cymorth ar gyllidebu, rheoli arian, neu gyllid myfyrwyr.
Wythnos Ymwybyddiaeth Trawsrywedd: 13-19 Tachwedd, - cyfle i adfyfyrio, i ddathlu, ac i ddod at ein gilydd fel cymuned i godi ymwybyddiaeth o brofiadau pobl drawsryweddo 20 Tachwedd - Diwrnod Cofio Trawsrywedd
